Videos / Fideos

As part of the R&D week, we invited videographer Dave Peate into the rehearsal room so we could give you all a better glimpse into our investigations and process. Here are two videos he recorded: an overview of the project and also an interview with our dramaturg, Branwen Davies. Enjoy!

Fel rhan o’r wythnos ymchwil a datblygu, gwahoddom Dave Peate i’n hystafell ymarfer er mwyn i chi gael y cyfle o wylio ein prosesau archwilio.  Dyma ddwy o’i ffilmiau byr o’r wythnos: trosolwg y prosiect, a chyfweliad gyda’n dramatwrg, Branwen Davies. Mwynhewch!

 

 

Just the Beginning… / Dim ond y Dechrau… by / gan Zoë Waterman

This will be the final blog from our R&D week, reflecting on what we set out to do and where we are now. As Illumine Theatre’s first project the last week had been far more than the sum of its parts – launching ourselves as a company; delving into areas of theatre practice that were entirely new to us; and developing a script that we hope will become the basis of our first full production.

We entered into this R&D period open to the idea that having a deaf character – played by a deaf actor – may not work, or may not be something we felt we could support at this stage. We have left the process convinced that it is absolutely the right thing for the story we are telling in this particular play, and for us as a company. Introducing the thread of congenital deafness to the script has opened up many new possibilities for the story and the mode of storytelling. Working with a deaf actor has opened my eyes as a director and ours as a company to new ways of working and new languages to explore. Working with Maggie Hampton and Jonny Cotsen with support from Disability Arts Cymru and Taking Flight Theatre has allowed us to build relationships with fellow creatives and launch Illumine Theatre in a very supported way. Finally, it feels important politically to launch our company with a clear and visible commitment to equality and accessibility, one which we intend to take through everything we do as Illumine.

We have also left this week having consolidated our collaboration with Professor Jacky Boivin at Cardiff University and with many exciting ideas about how we can take this relationship further as we move forward with the script in partnership with her.

Today we ended the R&D period with a meeting based on the practicalities of how we can move forward with this project into a full production next year. We explored the logistics of budgets and venues, possible future collaborations and marketing strategies with Emma Evans, a fantastic and very experienced producer who was able to help us to see the steps needed to take this project, and Illumine Theatre, on the next stage of our journey.

So, the end of our first project and a very successful R&D, but just the beginning for the play and for Illumine Theatre.

lisaparryrdkirstenmcternan-127

Dyma’r diweddariad diwethaf o’n hwythnos ymchwil a datblygu, er mwyn cnoi cil am yr hyn y ceisiom gyflawni a ble ry ni arni nawr. Roedd yr wythnos ddiwethaf yn wythnos fawreddog i gwmni Theatr Illumine – wrth lansio’r cwmni ac archwilio agweddau o theatr a oedd yn hollol newydd inni, a datblygu sgript gobeithiwn fydd yn sail i’n cynhyrchiad cyntaf.

Dechreuom y cyfnod hwn o ymchwil a datblygu heb wybod yn iawn a buasai cael cymeriad – ac actor – byddar yn gweithio, neu yn rhywbeth y byddem yn gallu ei gefnogi ar hyn o bryd. Wrth orffen y broses, rydym yn sicr mai dyma yw’r ffordd gywir i adrodd yr hanes yn y ddrama hon i ni fel cwmni.  Mae cyflwyno’r cysyniad o fyddardod gwybyddol yn y sgript wedi cynnig nifer o bosibiliadau gwahanol i’r modd o adrodd y stori, yn ogystal â’r hanes ei hun. Beth sydd wedi bod yn agoriad llygad imi fel cyfarwyddwr ac i ni fel cwmni yw gweithio gydag actor byddar, sydd wedi datgloi ffyrdd ac ieithoedd newydd i’w harchwilio.  Mae gweithio gyda Maggie Hampton a Jonny Cotsen gyda chymorth Celfyddydau Anabledd Cymru a theatr Taking Flight wedi ein galluogi i adeiladu perthynas gyda phobl greadigol ac ennyn y gefnogaeth angenrheidiol er mwyn lansio Theatr Illumine.Yn olaf, mae’n teimlo’n bwysig yn wleidyddol i lansio ein cwmni gydag ymroddiad clir ac amlwg i gydraddoldeb a chynhwysiant, ac rydym am barhau i gadw’r gwerthoedd yma’n greiddiol i bob dim ni’n cyflawni fel Illumine.

Rydym hefyd wedi adeiladu ar ein perthynas newydd gyda’r Athro Jacky Boivin o Brifysgol Caerdydd yr wythnos hon, a gennym nifer o syniadau cyffrous ynglŷn â sut gallwn ni ddatblygu’r bartneriaeth yma wrth i ni symud y sgript hon yn ei blaen.

Heddiw fe orffennom y cyfnod ymchwil a datblygu gyda chyfarfod ynglŷn ag ymarferoldeb sut y gallwn ni symud y prosiect hwn ymlaen i gynhyrchiad llawn y flwyddyn nesaf. Ymchwiliom oblygiadau cyllideb a lleoliadau, gydweithredu posib yn y dyfodol a strategaethau marchnata gydag Emma Evans, cynhyrchydd profiadol ffantastig a galluogodd ni i weld y camau nesaf sydd angen ar y prosiect, ac i Theatr Illumine, er mwyn gwireddu’r cam nesaf ar ein taith.

Felly dyna ddiwedd ein prosiect cyntaf a diwedd ar gyfnod llwyddiannus iawn o ymchwil a datblygu – sydd megis dim ond y camau cyntaf i’r ddrama a’r cwmni Illumine ei hun.

Sound and Light / Sain a Golau by / gan Zoë Waterman

Lights up. The sound of something like a wave – quiet at first but increasing in volume. It’s the sound of static, white noise, almost like radio interference. It’s overwhelming, encouraging us to search within it for escape.

There it is – faint at first, but increasingly loud. It’s a fetal heartbeat – fast, determined, like a predator coming for us. It’s relentless. The lights flicker and die.

Lisa’s play has sensory scenes at the start of each act, the above stage direction makes up Act 1 Scene 1. This week we have been exploring how the language of these scenes informs the rest of the play, and how we might explore the role of light and sound in telling our story. Elanor Higgins joined us for a day of rehearsals and talked about how lighting might be used and how it could play a part in making the soundscapes in the play accessible to deaf audience members.

It was really exciting think about the range of possibilities available-

– how can darkness help us explore disorientation and a need to escape?

– could moving / swirling lights play a part?

– how can colour help?

– how might we use captioning in these scenes?

Meanwhile, Ed Lewis started to play with sound ideas and created an initial sketch of how this scene might sound.

lisaparryrdkirstenmcternan-072

 

Golau!  Mae sŵn megis ton yn atseinio’n dawel ac yna’n fwy uchel.  Sŵn gwyn, sŵn statig, radio yn chwilio am orsaf…mae’n ormod i wrando arno, yn ein hannog i geisio dianc rhagddo oddi ei fewn.

 A dyna hi. Yn dawel yn gyntaf, ond yna’n cryfhau yn raddol.  Calon sy’n curo – yn gyflym, ac yn benderfynol; calon baban yn carlamu fel anifail ysglyfaethus ar ruthr: yn ddi-droi-nôl.  Mae’r goleuadau yn dechrau pallu ac yna’n peidio’n gyfangwbl.

Mae gan ddrama Lisa golygfeydd i’r synhwyrau cyn pob act, ac enghraifft yw’r uchod o ddechrau Act 1.  Yr wythnos hon rydym wedi bod yn ymchwilio sut mae iaith y golygfeydd yma’n effeithio ar weddill y ddrama, a sut y gallwn ni archwilio defnyddio golau a sain er mwyn adrodd ein stori.  Ymunodd Elanor Higgins gyda ni am ddiwrnod o ymarferion a siaradodd am sut gall golau cael ei ddefnyddio yn seinluniau yn y ddrama i gynnwys cynulleidfa fyddar.

Mi oedd yn hynod gyffrous i ystyried yr ystod o oblygiadau posibl –

– sut gall tywyllwch ein helpu i archwilio’r angen i ddianc o ddryswch?

– gall goleuadau symudol sy’n swyrlïo chwarae rhan?

– sut y gall lliw fod o gymorth?

– sut y gallwn ni ddefnyddio isdeitlau yn y golygfeydd yma?

Yn y cyfamser, dechreuodd Ed Lewis chwarae gyda syniadau sain a chreodd sgets ddechreuol bydd ar gael  i ni rannu gyda chi cyn bo hir.

 

Writing Science / Ysgrifennu Gwyddoniaeth by / gan Lisa Parry

lisaparryrdkirstenmcternan-107
Lisa Parry

Science. I’m never sure if I’m supposed to like it. The arts and science have been polarised in the public consciousness for generations. And theatre’s messy. It likes to jump in and get mucky. Science is clean, sterile, with no ethics other than those we choose to bring to it. I’ve seen science put on stage in a way that’s cleaned theatre up: made it less about character and more about factual recitation. It was fascinating to watch but didn’t interest me as a writer. But the human dynamics behind scientific issues, the implications of a scientific advance on someone walking down the street… That’s my bag.

There’s a truth behind the statement ‘write what you know’. But as a writer you can go anywhere, write about anything – as long as you do your research. If you’re not the expert on something, then turn yourself into one or you’ll lose an audience member who is and never pull them back into the narrative. In a play featuring gamete donation, that meant one thing for me: research.

I’ve trawled through press articles, consulted websites, fired off questions to press offices. Gamete donation is a hot topic and, as a writer, I believe I have a responsibility to those with first-hand experience. I wanted an expert to consult on the script, for fact checking and also opinion. I couldn’t believe my luck when I contacted Cardiff University and was told they had on their staff Jacky Boivin, professor of health psychology who is an expert in this field. We now have a close collaboration which is beyond helpful and I’m massively grateful for her input.

Issues continue to evolve and to keep the piece current, the research never really stops. But there’s a question over how much to include. For example, one of the characters in the play is a scientist, working on projects such as embryo incubation for countries with high HIV rates in Africa. It’s important for me to know that to write him; it may well be important for the director and actor. But for the audience, it’s probably one strand too many, holding back the action.

I hope a production will bring a scientific audience into the theatre, with post-show talks and discussions. Both the arts and science investigate what it means to be human. Bringing them together can only be a good thing.

 

 

lisaparryrdkirstenmcternan-107
Lisa Parry

Gwyddoniaeth – dydw i byth yn siŵr os ydw i fod ei hoffi neu beidio.  Mae’r celfyddydau a’r gwyddorau wedi cael eu pegynu yn ymwybyddiaeth y cyhoedd am genedlaethau.  Anniben

ydy theatr yn y pen draw; mae’n hoff o neidio i mewn tan ei bod hi’n fwd i gyd.  Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, mae gwyddoniaeth yn gallu ymddangos mor bur ei bod hi’n ddi-enaid, ond heb unrhyw foesau heblaw’r rhai rydym yn dewis i’w dilyn.  Rydw i wedi gwylio gwyddoniaeth yn cael ei llwyfanni mewn dull diffrwyth sydd wedi creu theatr nad oedd am gyfleu’r cymeriadau ond yn hytrach oedd am adrodd ffeithiau. Oedd, mi oedd yn ddeniadol i wylio ond ni wnaeth fy niddori fel dramodydd.  Ond mae’r dynamig dynol, cudd y tu ôl i broblemau gwyddonol – a sut gall cynnydd gwyddonol effeithio unrhywun sy’n cerdded i lawr y stryd – ie dyna fy myd i.

Mae yna wirionedd y tu ôl i’r cysyniad “ysgrifennwch yr hyn y gwyddoch”.  Ond, fel dramodydd, gallwch fynd unman, ac ysgrifennu ambiti unrhywbeth – dim ond eich bod chi’n gwneud eich gwaith ymchwil.  Os nad ydych chi’n arbenigwr yn eich maes dewisol, gwell i chi ddysgu’n gyflym, neu beryg i chi golli aelod o’r gynulleidfa na fydd wedyn am ddychwelyd i’r naratif yn yr un modd brwd.  Felly mewn drama am gynnig gamet, roedd hyn yn golygu dim ond un peth : ymchwil pellach.

Rydw i felly wedi ymweld ag erthyglau, ymgynghori gyda gwefannau, a hela cwestiynau di-ri at swyddfeydd i’r wasg. Mae rhoddion gamet yn dipyn o daten boeth ar hyn o bryd, felly fel dramodydd, credaf fod gen i’r cyfrifoldeb o geisio adlewyrchu profiadau personol.  Roeddwn i am gael arbenigwr am ymgynghoriad sgript, er mwyn sicrhau ffeithiau a hefyd barn proffesiynol.  Felly, nid oeddwn i’n gallu credu pa mor lwcus oeddwn i wrth imi gysylltu â’r brifysgol leol yng Nghaerdydd o glywed bod ganddynt arbenigwr yn y maes sef Jacky Boivin, athro mewn Seicoleg Iechyd. Gennym nawr gydweithredu agos sydd yn gefn sylweddol imi ac mi rydw i felly’n ddiolchgar tu hwnt iddi.

Mae’r maes yn parhau i esblygu a dydi’r ymchwil i gadw’r darn yn gyfredol byth yn dirwyn i ben. Ond, mae yna gwestiwn am faint i gynnwys. Er enghraifft, mae un o’r cymeriadau yn y ddrama yn wyddonydd sy’n gweithio ar brosiectau megis cadw embryonau i wledydd sydd â niferoedd mawr o bobl yn dioddef o HIV/AIDS.  Mae’n bwysig imi wybod hynny er mwyn ysgrifennu ei linellau, ac mae hyn o siwr o fod yn bwysig i’r cyfarwyddwr a’r actor hefyd.  Ond i’r gynulleidfa, mae hyn yn debyg o fod yn fanylyn diangen, sy’n wendid o ran cyfleu’r ddrama.

Gobeithiaf fydd cynhyrchiad yn dod â chynulleidfa wyddonol i’r theatr, gyda sgwrs a thrafodaethau i ddilyn wedi’r sioe hefyd.  Wedi’r cyfan, trin a thrafod sut beth yw hi i fod yn berson yw diben gwyddoniaeth a’r celfyddydau; mae’n rhaid bod e’n beth da felly i’w cyfuno.

Script Changes / Newid y Testun by / gan Lisa Parry

aaaapicLeonardo da Vinci said ‘art is never finished, only abandoned’ and I think the same is true of plays. I’ve watched work morph on stage, from preview to press night and beyond – the text changing, sometimes massively. But I think the trick is knowing when to abandon a piece of work as complete and when to recognise that it needs changing, not tweaking.

If done well, I think one script change will reverberate through the entire text, a bit like how changing a vibration on one string of a violin will impact on vibrations through the entire instrument and change the note heard. Any textual change has consequences. I knew this when we decided to introduce cognitive deafness to the script. The point of the week was to see if it thematically worked. At the start, we really didn’t know if it would or not; it was a true exploration. But it has worked. It’s there to stay. And that means a very solid rewrite.

It’s the part of the process I love most. The rush of relief after finishing a first draft is always exhilarating but I adore rewriting. I know these characters so well now I’m really looking forward to spending some time alone with them, living with them full time in my head. Also, with this one, it’s not too daunting a task. We made plenty of changes to the script in the room, thanks to our phenomenal actors. A wise playwright once said to me – if an actor complements your script, ignore them. If they tell you they don’t understand why you’ve written a line of dialogue or feel no motivation to follow your stage direction to move to a door, you write that down. You fix it. Because actors know their stuff and they don’t tell you those things lightly.

And so now I have a much-scribbled on script and will soon create a new file on my laptop and get cracking. There are still some things to solve: I’m not quite sure on one bit in Act 4; I’m wondering how to write some sensory scenes between the acts so they have a consistent narrative and are accessible to the deaf community whilst also pulling in hearing audiences in the play. But they’re exciting challenges and solving them and reshaping the piece a little will result in a much better script for the rehearsal room. And knowing that, thanks to a week of work with various practitioners, is a lovely place from which to start.

 

cropped-aaaapic.jpg

Fel awgrymodd Leonardo da Vinci ei hun ‘does dim modd gorffen celf, dim ond rhoi’r gorau iddi’ ac mi gredaf fod yr un peth yn wir am ddramâu.  Rydw i wedi gwylio gwaith yn newid ar lwyfan o’r rhagolwg i noson y wasg – yn wir mae’r testun yn newid o hyd, weithiau’n sylweddol.  Ond, credaf taw y tric – os oes yna dric – yw i wybod pryd i roi’r gorau i ddarn o waith sydd wedi cyrraedd ei lawn dwf, a pha bryd mae angen mwy nac ond mân newidiadau.

Os yw’r newid yn un effeithiol, dw i yn credu gall un newid bach o ran geiriad y testun adlewyrchu drwy’r holl ddarn o waith –  ddim yn annhebyg i’r cysyniad bod newid un nodyn ar y ffidil er mwyn ei chwarae gyda vibrato yn gallu effeithio ar timbre yr holl gerddoriaeth o’i gwmpas. Felly fe fydd gan unrhyw newidiadau o ran testun effeithiau pendant ac mi oeddwn i yn deall hynny wrth inni benderfynu cyflwyno byddardod gwybyddol i’r sgript.  Pwynt yr wythnos ddiwethaf oedd ymarfer ac ymchwilio go iawn er mwyn gweld a oedd yn gweithio fel thema achos ar gychwyn yr wythnos, doedd hynny ddim yn amlwg. Ond, dda gen i ddweud bod y thema yn gweithio ac yma o hyd.  Er, golyga hyn gwaith golygu o ddifri.

Hwn yw’r proses caraf fwyaf.  Mae’r rhyddhad wrth orffen y drafft cyntaf yn gyffrous, ond dw i wrth fy modd yn dychwelyd at y testun er mwyn golygu ac ail-ysgrifennu.  Dw i’n adnabod y cymeriadau mor dda erbyn hyn fy mod i’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda nhw yn llawn amser ar fy mhen fy hun – ac yn fy mhen fy hun.  Hefyd, gyda’r darn o waith yma, dydi hynny ddim o reidrwydd yn mynd i fod yn ormod o ben tost; gwnaethom newidiadau lu i’r testun yn yr ystafell ymarfer, diolch i’r actorion gwych.  Mi ddwedodd dramodydd doeth imi unwaith: os yw actor am roi clod i dy sgript, anwybydda nhw.  Ond, os maen nhw’n dweud nad ydyn nhw’n deall pam yr ydych chi wedi ysgrifennu llinell o ddeialog – neu’n teimlo’n reddfol na ddylen nhw ddilyn eich cyfarwyddiadau llwyfan i symud tuag at y drws – yna ysgrifenna hynny lawr.  Trwsia fe.  Achos nid ar chwarae bach mae actorion yn rhannu’r pethau yma; maent yn adnabod eu crefft.

Felly gen i sgript â sgrapiau o wybodaeth trosti, a chyn hir byddaf yn agor ffeil newydd ar fy ngliniadur er mwyn mynd amdani eto.  Oes, mae yna ambell i broblem i ddatrys: dydw i ddim yn sicr am un rhan o’r bedwaredd act, a dw i’n ceisio dyfalu sut gallaf ychwanegu golygfeydd ‘synhwyraidd’ rhwng yr actau fel bod ganddynt stori gyson er mwyn ategu profiad y gymuned fyddar yn ogystal â thynnu’r gynulleidfa llawn clyw i mewn i’r perfformiad. Heriau difyr, a bydd eu datrys yn fy ngalluogi i ailwampio’r darn ymhellach er mwyn sicrhau sgript llawer yn well i’n hymarfer nesaf.  Mae gwybod hynny,  ar ôl wythnos o waith gyda mewnbwn gan nifer fawr o gyfranogwyr gwahanol, yn le da iawn i fod. 

Deafness and Performance / Byddardod a pherfformiad by / gan Shawna Workman

lisaparryrdkirstenmcternan-004
Shawna Workman

It has been a fantastic week working with Illumine Theatre. I was lucky to get the chance to play the role of Mary who is deaf. I was born hearing, however when I was a baby, barely even six months, I had meningitis. As a result, I’m deaf in my right ear and unable to hear high frequency sounds in my left ear. Growing up, I wanted to be able to do everything a hearing person can; I didn’t want the disability to limit anything.

I started performing professionally at the age of 16 – mostly in films with hearing characters to portray. Last year, I did a short film about a deaf girl who used BSL and her journey of integrating into mainstream school. I find it great being able to play characters that have hearing problems equal to my own or worse. It gives me the chance to show my disability and allows other deaf people and communities to see that you can do anything and that steps are being taken to show disabilities on stage and screen.

My character, Mary, relies on lip reading. She’s confident about her disability which is refreshing to see. It was interesting exploring the ways she would have a typical conversation with someone – how easily some people forget about the hearing issue as it isn’t visible and how vulnerable she is. Mary can’t hear when someone is approaching; if they turn their head and she can’t see their lips, she loses any chance of communicating. But again and again throughout the play, she doesn’t let it faze her or stop her doing what she wants.

As far as I’m aware, deaf characters are not shown frequently in plays. In my experience of going to the theatre, you don’t see any deaf roles.  I do think it’s important for there to be deaf roles.  It adds another layer. It can also provide a message to the audience – hearing and non-hearing – that there are ways to communicate and a hearing aid or a disability shouldn’t affect this.

lisaparryrdkirstenmcternan-004 Mae hi wedi bod yn wythnos wych yn gweithio gyda Theatr Illumine.  Bues i’n ddigon ffodus i gael y cyfle i chwarae rôl Mary – sydd yn fyddar. Roeddwn i’n gallu clywed pan gefais i fy ngeni, ond yn anffodus wedi imi gael fy nharo yn wael gan lid yr ymennydd fe gollais innau fy nghlywYn sgil hynny, rydw i’n fyddar yn fy nghlust dde a methu clywed synau amledd uchel yn fy nghlust chwith

Pan oeddwn i’n prifio roeddwn i am wneud pob dim mae person sy’n gallu clywed yn ei wneud; doeddwn i ddim am i’r anabledd fy rhwystro.  Dechreuais berfformio yn broffesiynol pan oeddwn i’n 16 mlwydd oedgan fwyaf yn portreadu cymeriadau ffilm sydd efo’r gallu i glywedY llynedd, mi wnes i ffilm fer am ferch fyddar a oedd yn defnyddio iaith arwyddo yn ei thaith i integreiddio i mewn i ysgol brif ffrwdRydw i wir yn mwynhau gallu chwarae cymeriadau sydd efo problemau clyw sydd cyn waeled – neu’n waeth– na fy rhai i Mae’n fy ngalluogi i arddangos fy anabledd ac i ganiatáu pobl, a chymunedau, byddar i weld bod unrhywbeth yn bosib; a bod camau yn cael eu cymryd ddangos anableddau ar y llwyfan a’r sgrîn.

Mae fy nghymeriad i, Mary, yn dibynnu ar ddarllen gwefusau ac yn hyderus am ei hanabledd, sydd yn braf i weld.  Roedd yn ddifyr archwilio sut y buasai hi’n cyfathrebu gyda rhywun arall: pa mor hawdd mae ambell un yn anghofio am ei thrymder clyw gan nad yw’n weledol, a pha mor fregus mae hi felly.  Nid yw Mary’n gallu clywed pobl yn agosáu; os maent yn troi eu pen nid yw hi’n gallu gweld ei gwefusau ac yn colli’r sgwrsEr hyn, tro ar ôl tro yn ystod y ddrama, nid yw hyn yn ei siglo hi rhag ei dymuniadau a dyheadau, na chwaith yn ysgwyd ei hyder.

Hyd y gwn i, nid yw cymeriadau byddar yn cael eu portreadu’n aml mewn dramâu; yn sicr nid ydw i wedi gwylio unrhyw gymeriadau byddar yn ystod fy ymweliadau i â’r theatr.  Credaf fod hi’n bwysig bod yna gymeriadau byddar; mae’n gallu ychwanegu haenen arall o ystyr.  Yn ogystal, mae’n cyflenwi neges i’r gynulleidfa – boed nhw’n clywed neu beidio – bod yna amryw ffyrdd o gyfathrebu a ni ddylai teclyn gwrando nac anabledd rwystro hynny.

The Dramaturg’s View / Golwg y Dramatwrg by /gan Branwen Davies

lisaparryrdkirstenmcternan-104
Dr Branwen Davies

It’s been a productive R&D week this week with Illumine Theatre. I was fortunate enough to sit in and offer some dramaturgical input. As a dramaturg there is space to contextualize the world of the play, establish connections within the text and identify areas to clarify.

I was familiar with earlier drafts of the play and it’s been an interesting journey already seeing this play develop and grow then head off in different directions. This week gave me the opportunity to revisit the play with rigorous curiosity and be an objective observer.

I’m excited by the project because it delves in to a future that is unknown. It plays with subjects we are  touching upon today  that will have huge implications on our future socially, politically and environmentally.

There are so many interesting and fascinating themes in this play and aspects that you want to delve into  deeper and ask numerous questions about. However it is also important to look at the dramatic possibilities these themes  present and not be confined to sharing information and presenting facts.

Lisa is a strong writer and the play is extremely well written however this week has been an opportunity to unpick it all and dissect, question and discuss. Fresh perspectives and opinions have been useful to seek the heart of the play. We were able to see what elements are needed and what elements are crowding the story or making the story lose it’s urgency or lose the audience’s interest. It’s been an opportunity to edit aspects that perhaps were echoes from previous drafts and no longer relevant but also an opportunity to discover  new threads and possibilities that have come to light with conversation and constant questioning and discussing. It has also been an opportunity to play and experiment a little. Gaining expert knowledge regarding deafness, sperm donation and genetics has been invaluable in the process but it has also been vital to find a way of weaving these themes and subjects in to the writing and keeping it alive and for it to resonate dramatically.

I look forward to seeing in what direction the play heads off to next.

 

 

lisaparryrdkirstenmcternan-104
Dr Branwen Davies

Mae hi wedi bod yn wythnos ymarfer a datblygu gynhyrchiol iawn gyda Illumine Theatre.
Bum yn ffodus i gael eistedd yn yr ymarferion a chynnig adborth a sylwadau. Fel dramatwrg roedd yn gyfle i mi roi byd y ddrama mewn cyd-destun, sefydlu cysylltiadau a nodi ble mae angen crynhoi y testun neu angen mwy o eglurhad.

Roeddwn eisioes yn gyfarwydd gyda drafftiau cynnar y ddrama ac mae hi wedi bod yn ddifyr gweld y ddrama yn datblygu a thyfu ac yn mynd ar wahanol drywyddau. Galluogodd yr wythnos hon i mi ailymweld a’r ddrama gyda chwilfrydedd newydd a rhoi gogwydd wrthrychol i’r datblygiadau.

Mae’n ddrama gyffrous gan ei fod yn ymwneud a’r dyfodol annelwig. Mae’r ddrama yn cyffwrdd a phynciau sydd yn berthnasol i ni heddiw ond a fydd yn cael effaith enfawr yn yr hirdymor yn gymdeithasol, gwleidyddol ac yn amgylcheddol.

Mae yna sawl thema difyr a diddorol ac agweddau mae rhywun eisiau treulio amser yn tyrchu’n ddyfnach iddynt a holi a chwestiynnu ond mae’n bwysig hefyd edrych ar bosibiliadau dramatig y themâu a’r ffordd orau i’w defnyddio heb gael ein cyfyngu i rannu gwybodaeth a chyflwyno ffeithiau yn unig.

Mae Lisa yn ddramodydd profiadol ac mae’r testun yn un pwerus ond mae’r wythnos hon wedi ein galluogi i ddatod, astudio, cwestiynnu a thrafod yn fanwl holl agweddau’r ddrama. Mae gogwyddau newydd a barn gwahanol wedi bod yn ddefnyddiol i ddod o hyd i galon y ddrama. Fe alluogodd ni i weld pa elfennau oedd eu hangen a pha elfennau nad oedd eu hangen a oedd o bosib yn cymhlethu’r stori neu’n colli diddordeb y gynulleidfa. Mae wedi bod yn gyfle i olygu tameidiau oedd yn gysgodion o hen ddrafftiau ac ddim yn berthnasol bellach ond hefyd yn gyfle i ddod o hyd i syniadau a chysylltiadau a phosibiliadau newydd drwy drafod a chwestiynnu cyson. Mae hefyd wedi bod yn gyfle i chwarae ac arbrofi tipyn.

Mae cael mewnbwn arbenigwyr ym maes clyw, rhodd sperm a geneteg wedi bod yn amhrisiadwy yn y broses one mae hefyd wedi bod yn bwysig gweu y themâu a’r pynciau hyn i’r testun gan gadw’r testun yn fyw ac yn berthnasol yn ddramatig.

Rydw i’n edrych ymlaen i weld sut bydd y ddrama yn datblygu’n bellach.

Rehearsal Photos / Lluniau o’n hymarferion

Below are some photos from this week’s R&D at Chapter Arts Centre, Cardiff.

Dyma ddetholiad isod o luniau o’n cyfnod ymchwil a datblygu yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd.

Playwright/Awdur – Lisa Parry; Director/Cyfarwyddwr – Zoe Waterman; Dramaturg/Dramodydd – Branwen Davies.

Gareth John Bale – Chris; Sion Ifan – John; Shawna Workman – Mary.

Photos – Kirsten McTernan

Directing Deafness / Cyfarwyddo Byddardod by / gan Zoë Waterman

fbktwbanner
Branwen Davies, Lisa Parry, Zoë Waterman

I am writing this at the end of a brilliant second day of rehearsals – this morning we started to get the play on its feet, after a first day of reading and discussing. This stage is always a leap into the unknown as the actors bring the script to life, but today had an added level of discovery for me as I have never worked with a deaf actor before.

Shawna Workman is playing Mary, and both actor and character lip read. In advance of rehearsals I had thought about and prepared for how I would communicate with Shawna, and how we could modify the rehearsal process to support her. We also emailed in advance and Shawna started our first day of rehearsals by explaining to the company the extent of her hearing loss and what she can hear, and some tips on how best to support her. However, I hadn’t thought about the practical, physical detail of the character being deaf. Lisa had written some detail about lip reading and signing into the script, but as soon as we got the first scene on its feet today something I just hadn’t considered became glaringly obvious – for the character (and the actor) to lip read, she needs to stand constantly directly facing and looking at the person she is talking to. It seems absurd to me now that this hadn’t crossed my mind. As a director I often ask actors not to keep looking at each other; in life we often don’t look at the person we are talking to – we move around, we look away, we turn to face people or things we are referring to and we avoid and seek eye contact at different times. Of course on stage there is another more urgent reason, we must let the audience in. You simply can’t tell a story on stage where two characters are constantly in profile, locked into each other’s faces. Having said this, there is a particular quality of focus and concentration that someone who is lip reading will give to another person, that we rarely see – on stage or in our day to day lives, and it is something I am keen to explore and engage with as it is very powerful to watch.

Maggie Hampton, who has worked in the area of disability arts for years and is herself deaf, was in our rehearsals today to help support the process and bring a deaf perspective from the audience as Shawna brings one from the stage.  She was brilliant at helping us to explore some options for this dilemma. She suggested that as long as we set up a convention around Mary lip reading, we could stretch the truth and find ways for her to engage the audience. We didn’t find a definitive solution today, but something that felt good was Shawna being attentive to Gareth (the other actor) when he was speaking, but feeling free to turn away when she was. This was partly achievable because Shawna has some hearing so can tell when Gareth has stopped talking even if she isn’t looking at him, but were we to work with a profoundly deaf actor there may be other solutions to explore.

This is also something I hadn’t particularly thought about before – one of Shawna’s first questions was “how deaf is Mary?” as of course there is a range of ability to hear amongst those who identify as deaf. This is a question that Lisa and I hadn’t previously discussed and it has been fascinating to start to think about this kind of detail as we delve further into the script. We also intend to explore how we can use more sign language – our story has three characters, Mary who is deaf, Chris who is hearing but can sign and John who is hearing and can’t sign. In the final scene we meet all three characters together in a high stakes scenario and I am looking forward to exploring how we can make use of each character’s access to language – spoken and signed – in how that scene unfolds. 

 

fbktwbanner
Branwen Davies, Lisa Parry, Zoe Waterman

Ysgrifennaf y blog hwn ar ddiwedd yr ail ddiwrnod gwych o ymarferion – y bore ‘ma dechreuon ni weithio ar y ddrama go iawn, wedi darllen a thrafod y diwrnod cyntaf. Mae’r rhan yma o’r broses wastad yn dipyn o naid wrth i’r actorion geisio dod â’r sgript i’r byw, a heddiw roedd yna lefel newydd o arloesedd gan mai dyma’r tro cyntaf imi weithio gydag actor byddar.

Mae Shawna Workman yn chwarae rhan Mary, ac mae hithau a’i chymeriad yn gallu darllen gwefusau.  Cyn dechrau’r ymarferion, roeddwn i wedi paratoi trwy feddwl ynghylch sut buaswn i’n cyfathrebu gyda Shawna, a hefyd sut gallwn i addasu ein hymarferion er mwyn ei chynorthwyo.  Yn ogystal, cysyllton ni dros ebost o flaen llaw, ac mi ddechreuodd Shawna ein diwrnod cyntaf o ymarferion trwy esbonio i’r cwmni pa mor ddifrifol yw ei nam clywedol, a beth yn union mae’n gallu clywed; yn ogystal ag argymhellion ynglŷn â sut orau i fod o gymorth ymarferol iddi.  Serch hynny, doeddwn i ddim wedi meddwl am effaith y ffaith bod ei chymeriad yn y ddrama ei hun yn fyddar hefyd.  Nodwyd eisoes yn y sgript ynglŷn ag iaith arwyddion a darllen gwefusau gan Lisa, ond unwaith i ni weithio ar yr olygfa gyntaf fe ddaeth rhywbeth i’r amlwg nad oeddwn i wedi ei ystyried o gwbl – er mwyn i’r cymeriad (a’r actor) ddarllen gwefusau, mae hi angen sefyll ble mae hi’n gallu gweld wyneb y person sy’n siarad.  Mae’n teimlo’n hollol abswrd nawr nad oedd hyn wedi fy nharo i cyn hynny.  Fel cyfarwyddwr, rydw i’n aml yn gofyn i actorion i beidio ag edrych ar ei gilydd gormod ar lwyfan – mewn bywyd bob dydd yn aml iawn nid ydym ni o reidrwydd yn edrych ar y gwrandäwr wrth  i ni symud, edrych i ffwrdd, a throi i wynebu’r bobl neu’r pethau sy’n wrthrych y sgwrs – ac  rydym yn ceisio, neu’n osgoi, edrych i lygaid y person arall ar adegau gwahanol.   Wrth gwrs ar y llwyfan mae yna reswm mwy penodol – sef bod yn rhaid i ni chaniatâi’r gynulleidfa i mewn i’r drafodaeth.  Nid oes posib llwyfannu stori lle mae ond proffil y prif gymeriadau gallwn weld wrth iddynt drafod gyda’i gilydd, wyneb yn wyneb.  Er hynny, mae yna ansawdd arbennig i’r ffocws a’r canolbwyntio sydd angen ar ddarllenwr gwefusau wrth ddilyn y siaradwr nad ydym yn gweld yn aml naill ai ar lwyfan na chwaith yn ein bywydau beunyddiol – ac mae hyn yn rinwedd rydw i’n frwd iawn i ddatblygu, gan fod yma rym arbennig.

Roedd Maggie Hampton, sydd hefyd yn drwm ei chlyw ac wedi gweithio ym maes celfyddydau anabledd am nifer o flynyddoedd, yn ein hymarferion heddiw er mwyn cefnogi’r broses a rhannu ei harbenigrwydd â’i safbwynt hi fel cynulleidfa i ategu golwg Shawna o’r llwyfan.  Bu Maggie yn ein helpu i ymdopi gyda’r her yn wych; ac awgrymodd cyhyd â’n bod ni yn sefydlu’r arfer bod Mary yn darllen gwefusau, yna gallwn chwarae gyda gwirionedd hynny er mwyn sicrhau ymddiddani’r gynulleidfa.  Nid oeddem ni wedi dod o hyd i’r union ddatrysiad heddiw, ond eto roedd hi’n braf gweld bod Shawna yn gallu gwylio Gareth (yr actor arall) yn ofalus pan oedd e’n siarad, ac yna’n teimlo’n rhydd i droi i ffwrdd yn ystod ei llinellau hi.  I ryw raddau, mi oedd hyn yn bosib oherwydd bod gan Shawna rhywfaint o glyw, ac felly’n gwybod pan oedd llinellau Gareth wedi dod i ben, hyd yn oed pan nad oedd hi’n ei wynebu – ond pe baem ni yn gweithio gydag actor sy’n hollol fyddar efallai buasai’n rhaid i ni archwilio datrysiadau eraill. 

Dyma rywbeth arall nad oeddwn i wedi ystyried yn llawn cyn heddiw – un o gwestiynau cyntaf Shawna oedd “Pa mor fyddar yw Mary?” gan fod yna ystod o allu gwrando ymysg y trwm eu clyw.  Dyma gwestiwn nad oeddwn i a Lisa wedi trafod cyn hynny, ac mae hi wedi bod yn wirioneddol ddiddorol i ddechrau meddwl ynglŷn â’r math yma o gysyniad wrth i ni weithio trwy’r sgript.  Bwriadwn hefyd archwilio sut y gallwn ni ddefnyddio mwy o arwyddo rhwng ein tri chymeriad : Mary sy’n fyddar, Chris sydd yn clywed ac sydd yn gallu arwyddo, a John sy’n clywed ond nad sydd yn arwyddo.  Yn ein golygfa olaf, mae’r tri chymeriad yn wynebu sefyllfa go ddramatig; ac edrychaf ymlaen felly i ddod o hyd i sut y gallwn ni ddefnyddio ac ystyried gallu ieithyddol gwahanol bob cymeriad i’w llawn botensial wrth i’r olygfa honno gyrraedd ei huchafbwynt.

Ideas to Explore / Syniadau i’w Harchwilio by / gan Lisa Parry

pic4What would you say if I told you that in less than seven years, children born via gamete donation will, for the first time in the UK, be entitled to trace their donor parent? Would you remember parliament voting through the law change 11 years ago? Will it affect your child, a friend’s child, a relative?

And what if I told you that, despite this law change, not every donor child will consider searching because a lot won’t actually know how they were conceived? Their families have no legal obligation to tell them. (Things are very different in New Zealand.) Would you have an opinion about this?

This slideshow requires JavaScript.

And how do you think a donor parent would feel if traced? A lot can happen in 18 years. Do you think, confronted with their genetic offspring, they might feel guilty? Or pleased? Or indifferent maybe? And what if they have a partner? Children of their own? How do you think they would feel?

And what if – if if if if if – what if the child had inherited something from the donor, something more than hair or eye colour. What if, for example, the donor had lied about a family history of cognitive deafness? What do you think would happen then?

These are the questions we’ll be grappling with next week when, for the first time, Illumine Theatre goes into the rehearsal room for an Arts Council of Wales-funded project – “Cognitive Deafness: Textual, Audience and Company Exploration”. We’ll be exploring how the introduction of a deaf character into the script impacts upon the world in Lisa Parry’s new play – working title ‘2023’ –  and the reverberations of this into production decisions. Could it thematically influence light and sound? If so, how? How could this be written into the text? And what impact will this theme have on our working practices as a company?

We couldn’t be more excited about the project. Illumine is a new Wales-based company, a joint endeavour between playwright Lisa Parry and director Zoë Waterman. Our remit is to reveal stories hidden in plain sight. This is our first project and we’ve been working closely with Cardiff University’s Jacky Boivin, Professor of Health Psychology, to ensure its scientific truth. However now we want to explore this new strand of deafness in a period of rehearsal and development.

We want to open up this exploration process as much as we can to you, our future audience. We hope this blog will give you a window onto the week so please sign up for updates.

Our amazing team for the week are: Branwen Davies (dramaturg), Elanor Higgins (lighting designer) and Edward Lewis (composer and sound designer). Our actors are: Gareth John Bale, Sion Ifan and Shawna Workman.

 

 

pic4Sut buasech chi’n ymateb pe bawn i’n eich atgoffa gall plant a grëwyd gan rodd (neu ‘gamet’ i ddefnyddio’r term biolegol) geisio darganfod eu rhieni genetaidd cyn diwedd y saith mlynedd nesaf? – a hynny am y tro cyntaf yn y Deyrnas Gyfunol.

Buasech chi’n cofio’r Aelodau Seneddol yn pleidleisio dros y newid hynny unarddeg mlynedd yn ôl?  A sut gall hyn effeithio ar eich plentyn, plentyn i’ch ffrind, neu aelod arall o’ch teulu?

A beth pe bawn i’n dweud – er y newid cyfreithiol – na fydd pob plentyn o rodd ‘gamet’ yn ystyried chwilota o’r herwydd nad ydynt yn ymwybodol o stori eu creadigaeth eu hunain? Wedi’r cyfan, does dim rheidrwydd cyfreithiol i’w teulu ddatgelu hynny. (Mae pethau yn wahanol iawn yn Seland Newydd.) Buasech chi â barn am hynny tybed?

A sut yn wir buasai’r rhiant genetig yn teimlo ar ôl y darganfyddiad? Gall tipyn golew ddigwydd mewn deunaw mlynedd!  Ydych chi’n credu  – o weld eu disgynyddion – buasent yn teimlo ychydig yn euog? Neu’n hapus? Neu – yn ddideimlad? A beth os bod ganddynt bartner? Plant eu hunain? Sut, feddyliwch chi, buasent hwythau yn ymateb ac yn teimlo?

A beth os – os os os – beth os mae’r plentyn wedi etifeddu rhywbeth o’r rhiant biolegol, rhywbeth yn fwy na liw gwallt neu liw llygaid?  Er enghraifft, beth os nad oedd y person a oedd yn gyfrifol am y gamet yn ddigon cyfrifol i gyffesu bod ganddynt nam corfforol neu deuluol – megis byddardod gwybyddol, er enghraifft?  Beth fuasai’n digwydd nesaf?

Dyma’r cwestiynau byddwn ni’n ceisio eu hateb yr wythnos hon pan fe fyddwn ni, Theatr Illumine yn myned i’n hystafell ymarfer am y tro cyntaf ar gyfer prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru – “Byddardod Gwybyddol: Archwiliad Cwmni, Cynulleidfa a Thestun”.  Fe fyddwn ni yn archwilio pa effaith y daw ar fyd sgript newydd Lisa Parry – sydd yn dwyn y teitl ‘2023’ ar hyn o bryd – ac effaith hynny ar benderfyniadau’r cynhyrchiad: byddai hyn yn effeithio ar ddylunio’r golau ac effeithiau sain? Os hynny – sut?  Sut gall hyn cael ei adlewyrchu yn nhestun y darn?  A pha obligiadau neu newidiadau sydd yn dod i’r amlwg i’n ffordd o weithio gyda’r thema hon?

Ni allwn fod yn fwy gynhyrfus ynghylch y prosiect hwn.  Mae Theatr Illumine yn gwmni newydd yng Nghymru, ar y cyd rhwng yr awdur Lisa Parry a’r cyfarwyddwr Zoë Waterman.   Ein priod-waith yw i ddod â storïau annelwig i’r amlwg.  Dyma ein prosiect cyntaf ac rydym ni wedi bod yn gweithio yn agos gyda’r Athro Jacky Boivin o adran Seicoleg Iechyd Prifysgol Caerdydd er mwyn sicrhau’r ffeithiau gwyddonol y tu ôl i’n stori.  A nawr yw’r amser i ni archwilio’r byd hwn o fyddardod a’r oblygiadau newydd yn sgil y newidiadau uchod mewn cyfnod o ddatblygu ac ymchwilio.

Hoffwn rannu’r proses hwn gymaint â sydd yn bosib gyda chi – ein cynulleidfa.  Gobeithiwn yn fawr fe fydd y blog yma yn rhoi ffenest i chi i’n wythnos felly cofrestrwch am ddiweddariadau os gwelwch yn dda!

Ein tîm anhygoel gogyfer â’r wythnos hon yw: Branwen Davies (dramodydd), Elanor Higgins (dyluniwr golau) ac Edward Lewis (cyfansoddwr a dylunydd sain).  Ein hactorion yw: Gareth John Bale, Sion Ifan a Shawna Workman.